Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd

E&S(4)-17-13 papur 2

Ymchwiliad i Rywogaethau Goresgynnol Estron – Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru

1.  Cyflwyniad

1.1.  Mae llawer o rywogaethau anfrodorol yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i'n bywydau, er enghraifft, ar ffurf da byw, cnydau, planhigion ar gyfer yr ardd ac anifeiliaid anwes.    Dim ond lleiafrif bach o rywogaethau anfrodorol sy’n tyfu i fod yn oresgynnol, gan effeithio'n ddifrifol ar ein bywyd gwyllt brodorol, yr economi ac iechyd.  Nid yw bob amser yn bosibl rhagweld pa rywogaethau anfrodorol sy’n mynd i fod yn oresgynnol.   Disgrifiwyd Rhywogaethau Goresgynnol Estron  (IAS) (y cyfeirir atynt yn aml iawn fel Rhywogaethau Anfrodorol Goresgynnol) fel y bygythiad mwyaf ond un ar ôl colli a distrywio cynefinoedd i fioamrywiaeth byd-eang a’r bygythiad mwyaf i ecosystemau bregus megis ynysoedd.   Gyda'r cynnydd mewn teithio a masnach rhyngwladol, mae'r bygythiad hefyd yn cynyddu.

1.2.  Yn ogystal â chael effaith sylweddol ar yr amgylchedd, mae IAS hefyd yn cael effaith negyddol sylweddol ar yr economi ac ar iechyd pobl.  Mae atal, canfod, rheoli neu ddileu yn weithgareddau hanfodol i reoli IAS ac mae angen defnyddio dull seiliedig ar risg wrth ymgymryd â'r gweithgareddau hyn.Dylid seilio rhaglenni asesu a monitro IAS ar risgiau a llwybrau a nodwyd, ac mae angen gwell dealltwriaeth o'r rhain a mwy o waith ymchwil i lawer ohonynt o hyd.  Mae angen defnyddio dull gweithredu strategol tymor hir cydlynol os ydym am i'r gwaith rydym yn ei wneud ym maes IAS fod yn effeithiol.

2.  Gweledigaeth

2.1.  Ein gweledigaeth yw diogelu bioamrywiaeth, ansawdd bywyd a buddiannau economaidd Cymru yn well rhag effeithiau andwyol IAS drwy wneud y canlynol:

•           Sicrhau dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth eang o risgiau ac effeithiau andwyol IAS a sicrhau mwy o wyliadwriaeth rhagddynt;  

•           Ymdeimlad cryfach o gydgyfrifoldeb ar draws y llywodraeth, sefydliadau rhanddeiliaid allweddol, rheolwyr tir a'r cyhoedd yn gyffredinol yng nghyswllt gweithredu ac ymddwyn mewn modd a fydd yn lleddfu ar y bygythiadau a berir gan IAS a’u heffeithiau; a  

•           Fframwaith a fydd yn gweithredu fel canllaw ar gyfer mentrau dileu, rheoli neu liniaru ar IAS ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol a fydd yn cyfrannu at leihau effaith andwyol sylweddol IAS ar rywogaethau a chynefinoedd bregus neu sensitif. 

 

3.  Crynodeb o’r Prif Negeseuon

3.1.  Rhywogaethau goresgynnol estron yw un o'r prif bethau sydd i gyfrif am golli bioamrywiaeth ledled y byd ac maent yn achosi difrod economaidd-gymdeithasol sylweddol.

3.2.  Mae IAS yn bygwth ein rhywogaethau brodorol a'u cynefinoedd drwy gyflwyno clefydau, er enghraifft, neu reibio, cystadlu am adnoddau, dadleoli neu drwy eu cau allan.    Fel arfer mae ganddynt fanteision sylweddol oherwydd eu bod yn rhydd o glefydau, plâu a'u hysglyfaethwyr naturiol. 

3.3.  Maent yn gallu achosi difrod i fuddiannau economaidd megis coed, amaethyddiaeth a seilwaith – amcangyfrifir eu bod yn costio £1.7 biliwn i economi Prydain bob blwyddyn.  

3.4.  Mae gan Brydain Fawr Strategaeth ddatblygedig ar gyfer mynd i’r afael â materion cysylltiedig â rhywogaethau goresgynnol estron a gyhoeddwyd yn 2008.  Byddwn yn adolygu hon gyda rhanddeiliaid allweddol a gweinyddiaethau eraill Prydain Fawr yn ystod ail hanner 2013.

3.5.  Yn sgil sefydlu’r Farchnad Sengl, mae angen dull gweithredu cydlynol ar draws yr UE os ydym am osgoi'r posibilrwydd o IAS yn cyrraedd yma o'r cyfandir heb unrhyw reolaethau.

3.6.  Mae angen i ni ymgymryd â gwaith ymchwil i dechnegau newydd neu well o ganfod, mesurau bioddiogelwch effeithiol, rheoli poblogaethau a dileu.

3.7.  Rhoi rhaglen cadw golwg a monitro ar waith a'i chynnal er mwyn canfod rhywogaethau goresgynnol estron newydd ac os yw poblogaethau y gwyddys amdanynt ar hyn o bryd yn lledaenu. 

3.8.  Mae cyfle i helpu i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o rywogaethau goresgynnol estron yng Nghymru er mwyn newid ymddygiad pobl.  Mae hyrwyddo ymgyrchoedd arferion bioddiogelwch - e.e. "Atal Lledaeniad - Gwirio, Glanhau, Sychu" a "Mynd at Wraidd y Mater" yn allweddol i hyn.

3.9.  Ennyn ymrwymiad grwpiau rhanddeiliaid allweddol sydd â rhan hollbwysig i’w chwarae o safbwynt rheoli’r prif ffyrdd y mae rhywogaethau goresgynnol estron yn cael eu cyflwyno a'u lledaenu gan gynnwys defnyddwyr dŵr, y fasnach arddwriaethol, y fasnach anifeiliaid anwes, rheolwyr tir, y sector adeiladu, a gwirfoddolwyr yn y gymuned.

3.10  Bydd gweithredu Rheoliadau IAS yr UE sy'n cael eu llunio ar hyn o bryd ac adolygiad Comisiwn y Gyfraith o ddeddfwriaeth Bywyd Gwyllt, sy’n cynnwys IAS, yn ddylanwadau pwysig o ran sut y caiff polisïau IAS eu datblygu yn y dyfodol.     

 

4.  Strategaeth Prydain Fawr

4.1.  Mae Cymru, Lloegr a’r Alban wedi dewis cydweithio ar y mater trawsbynciol hwn a lansiwyd Strategaeth Fframwaith Rhywogaethau Goresgynnol Estron Prydain Fawr yn 2008.  Mae'r Strategaeth yn nodi ein fframwaith lefel-uchel ac yn ymhelaethu ar y prif gamau gweithredu sy'n angenrheidiol i fynd i'r afael â'r problemau mae rhywogaethau goresgynnol estron yn eu hachosi. Mae’r strategaeth yn dilyn dull gweithredu hierarchaidd y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol sy’n rhoi blaenoriaeth i atal, yna canfod yn gynnar, ymateb cyflym, rheolaeth hirdymor a lliniaru.    

4.2.  Bwrdd Rhaglen Prydain Fawr sy'n arwain y gwaith o gydlynu gweithredu ar IAS, gyda chymorth Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Anfrodorol Prydain Fawr.  Mae gan Fwrdd y Rhaglen gylch gwaith eang sydd, yn ei hanfod, yn hwyluso cysylltiadau polisi rhwng meysydd polisi allweddol perthnasol ac yn rhoi arweiniad strategol cyffredinol o ran gweithredu Strategaeth Prydain Fawr.  Mae Ysgrifenyddiaeth GBNNS yn rhoi gwybodaeth ac arweiniad, gan gynnwys llunio asesiadau o risg ar gyfer rhywogaethau unigol, sy'n gweithredu fel sail ar gyfer pennu blaenoriaethau yng nghyswllt IAS risg uchel.    Sicrhawyd cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru fel bod modd parhau â gwefan GBNNS.  Mae Corff Rhaglen Prydain Fawr yn cynnwys cynrychiolwyr uwch o blith holl Weinyddiaethau Prydain Fawr a'u hasiantaethau.

5.  Cymru

5.1.  Er mwyn cyflawni blaenoriaethau bioamrywiaeth, mae angen sefydlu trefniadau llywodraethu yng Nghymru sy’n gwneud y defnydd gorau posibl o arbenigedd a gallu asiantaethau statudol, awdurdodau parciau cenedlaethol a lleol, a’r trydydd sector, ac sy’n sicrhau eglurder o ran awdurdod ac atebolrwydd ar yr un pryd.     Diolch i Bartneriaeth Bioamrywiaeth Cymru, mae gennym bartneriaeth gref a sylfaen gadarn ar gyfer llunio fframwaith sy'n cynnig llwybr clir o'r strategaeth i weithredu'r strategaeth honno ar raddfa leol sy'n manteisio ar alluoedd unigryw pob sefydliad cyfrannog.     

5.2.  Mae prif flaenoriaethau Cymru yn deillio o Strategaeth Bioamrywiaeth yr UE hyd 2020 (EUBS).    Mae Cymru yn cymeradwyo gweledigaeth a thargedau’r strategaeth hon, a bwriad y cynllun ar gyfer Cymru a’r trefniadau llywodraethu cysylltiedig yw galluogi Cymru i gyflawni ei rhwymedigaethau statudol yng nghyswllt adnoddau naturiol ac i weithio tuag at gyflawni targedau'r EUBS.    

5.3.  Mae rhywogaethau goresgynnol estron wedi’u cynnwys yn y prif darged ar gyfer 2020, sef atal colli bioamrywiaeth a dirywiad gwasanaethau ecosystem yn yr UE erbyn 2020, a'u hadfer cyn belled ag y bo hynny'n ymarferol bosibl, a chynyddu cyfraniad yr UE tuag at osgoi colli bioamrywiaeth fyd-eang.  Dyma chwe tharged Strategaeth Bioamrywiaeth yr UE:     

•           Gweithredu’r Gyfarwyddeb Cynefinoedd ac Adar yn llawn;

•           Cynnal ac adfer ecosystemau a’u gwasanaethau;

•           Cynyddu cyfraniad amaethyddiaeth a choedwigaeth i fioamrywiaeth;

•           Sicrhau y defnyddir pysgodfeydd mewn modd cynaliadwy;

•           Gwrthsefyll Rhywogaethau Goresgynnol Estron; a

•           Cynyddu gweithredu er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng bioamrywiaeth byd-eang.

 

5.4.  Er mwyn bodloni'r targed ar gyfer IAS, erbyn 2020, mae angen canfod IAS a'u llwybrau a phennu blaenoriaethau mewn perthynas â nhw, gyda rhywogaethau sydd â blaenoriaeth yn cael eu rheoli neu eu dileu, a llwybrau'n cael eu rheoli er mwyn atal cyflwyno a sefydlu rhywogaethau goresgynnol estron newydd.    Nod Llywodraeth Cymru fydd mynd i’r afael â rhywogaethau goresgynnol estron mewn partneriaeth ag eraill, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, awdurdodau lleol, asiantaethau eraill, sefydliadau yn y sector preifat, sefydliadau yn y trydydd sector, cymunedau lleol a grwpiau budd allweddol. 

5.5.  Amlinellir ein dull gweithredu strategol presennol yng nghyswllt bioamrywiaeth yn Strategaeth Amgylcheddol Cymru 2006.  O safbwynt ei chyflawni, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio drwy Bartneriaeth Bioamrywiaeth Cymru sy'n cynnwys amrediad eang o randdeiliaid, sy'n cynnwys asiantaethau statudol, awdurdodau lleol a chyrff anllywodraethol.   Mae'r Grwpiau Ecosystemau Bioamrywiaeth yn cynnwys grŵp o arbenigwyr ar rywogaethau a Gweithgor Rhywogaethau Goresgynnol Estron (Anfrodorol) Cymru.  

5.6.  Mae’r grwpiau’n dwyn ynghyd fuddiannau cynefin a rhywogaethau cysylltiedig perthnasol ar lefel Cymru i roi trosolwg annibynnol, integredig a gwybodus o ofynion gwarchodaeth yng nghyswllt ecosystemau a bioamrywiaeth.     Mae’r grwpiau ecosystemau wedi cynnal ymarfer mapio o’r adnodd cynefinoedd â blaenoriaeth yng Nghymru.  Mae’r mapiau a'r crynodeb o gynefinoedd sy’n dod gyda nhw yn cynnig dull o bennu blaenoriaethau ar gyfer gweithredu i sefydliadau partner sy'n canolbwyntio ar y cynefinoedd a’r rhywogaethau sydd â’r angen mwyaf o ran rheoli ym mhob ardal ddaearyddol.    

5.7.  Hyd yma, mae’r agwedd tuag at atal, canfod a rheoli IAS yn aml wedi bod yn oportiwnistaidd ac yn adweithiol.     Mae sicrhau cyllid ar gyfer gweithgareddau o’r fath yn gryn her gydag unrhyw waith cysylltiedig ag IAS yn aml yn cael ei gyflawni fel rhan o brosiectau eraill ac mewn partneriaeth ag eraill.  Rydym yn cydweithio â Cyfoeth Naturiol Cymru i fapio a chyfuno'r adnoddau sydd ar gael i helpu gyda'r gwaith o fynd i'r afael ag IAS mewn modd mwy cydlynol. 

5.8.  Un o swyddogion Llywodraeth Cymru sy'n cadeirio'r Gweithgor IAS.  Mae’r Grŵp yn cyfarfod tair gwaith y flwyddyn ac yn rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru ac asiantaethau statudol yng Nghymru ar ddatblygu, cyflawni a gweithredu Strategaeth Fframwaith Rhywogaethau Goresgynnol Anfrodorol Prydain Fawr yng Nghymru, fel y mae'n berthnasol i Gymru.

5.9.  Cwmpas Gweithgor INNS Cymru yw:

•           Hyrwyddo a hwyluso gweithredu strategol a chydlynol ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol yng Nghymru fel elfen integredig o weithredu ym Mhrydain Fawr; 

•           Codi ymwybyddiaeth o rywogaethau goresgynnol anfrodorol morol, dŵr croyw a thir a'u heffeithiau ar ein holl gymunedau, gan gynnwys y rheiny yn ac yng nghyffiniau Cymru os ystyrir nhw yn berthnasol;

•           Cydlynu a hyrwyddo'r gwaith o gofnodi, hysbysu a lledaenu gwybodaeth yng nghyswllt rhywogaethau anfrodorol, gan gynnwys gwybodaeth arolwg a chamau rheoli a ystyrir yn arfer gorau;

•           Creu rhwydwaith o arbenigwyr perthnasol yng Nghymru a fydd yn cyfrannu gwybodaeth a chyngor at fforymau rhanbarthol a fforymau Prydain Fawr a grwpiau gweithredu lleol;

•           Cydlynu a hyrwyddo’r gwaith o roi bioddiogelwch ar waith mewn modd cyfannol fel elfen hanfodol o reoli tir, dŵr croyw a'r môr, gan gynnwys newid defnydd, mewn ardaloedd trefol ac ardaloedd cefn gwlad;   

•           Hyrwyddo a gweithredu Strategaeth INNS Prydain Fawr, gan gynnwys cynlluniau gweithredu ar rywogaethau goresgynnol (ISAP) a Chynlluniau Gweithredu ar Lwybrau (PAP) a chyfrannu at roi'r Strategaeth ar waith ar lawr gwlad yng Nghymru; a 

•           Rhoi cyngor ar faterion cysylltiedig ag INNS sy'n berthnasol i ddatblygu a gweithredu dull gweithredu ecosystemau, sy'n canolbwyntio ar wytnwch ac iechyd ecosystemau, fel y nodwyd ym Mhartneriaeth Bioamrywiaeth Cymru a Cymru Fyw.

5.10.  Ni lwyddodd strwythur Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru i gyflawni targedau Bioamrywiaeth 2010, ac, o gofio ymrwymiadau rhyngwladol i ailedrych ar y rhain yn unol â Strategaeth Bioamrywiaeth yr UE erbyn 2020, mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi pwyso a mesur opsiynau i sicrhau y cyflawnir y targedau hyn yn y dyfodol.

5.11.  Ar lefel y DU, mae Cymru wedi ymrwymo i Fframwaith Bioamrywiaeth y DU.  Nod y fframwaith hwn yw cyflawni'r gofynion yng nghyswllt meysydd o ddiddordeb cyffredin neu feysydd sydd heb eu datganoli (megis yr amgylchedd morol er enghraifft).     Y Cydbwyllgor Cadwraeth Natur (JNCC) sy’n gyfrifol am fonitro cyflawniad yr amcanion sydd wedi’u nodi yn y fframwaith.

 

6.  Polisi Rhywogaethau Goresgynnol Estron

6.1.  O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r cyfrifoldeb dros bolisïau rhywogaethau goresgynnol estron o ddydd i ddydd yn rhan o Is-adran Tir, Natur a Choedwigaeth (LNFD) sy’n rhan o’r Gyfarwyddiaeth Dyfodol Cynaliadwy.   Mae’r LNFD yn cydweithio â nifer o fuddiannau polisi yn Llywodraeth Cymru i gydlynu a llywio'r dull gweithredu yng nghyswllt IAS. 

6.2.  Mae model llywodraethu clir a phriodol ar gyfer unrhyw waith IAS ar y cyd yn hanfodol ynghyd â chyfrifoldebau a swyddogaethau clir.  Prif ffocws Llywodraeth Cymru yng nghyswllt IAS yw polisi a llywodraethu.   Rhagwelwn mai'r corff amgylcheddol sengl newydd, sef Cyfoeth Naturiol Cymru, fydd yn gyfrifol am gyflawni strategaeth fframwaith Prydain Fawr ar gyfer IAS yng Nghymru, gan gynnwys y canlynol:

•           Cryfhau dealltwriaeth a chodi ymwybyddiaeth o risgiau ac effeithiau andwyol IAS a sicrhau mwy o wyliadwriaeth rhagddynt;  

•           Sefydliadau rhanddeiliaid allweddol, rheolwyr tir a'r cyhoedd yn gyffredinol yn rhannu’r cyfrifoldeb dros gamau gweithredu ac ymddygiad a fydd yn lleddfu ar effeithiau IAS neu ar yr effeithiau maent yn eu hachosi; a  

•           Rheoli mentrau dileu er mwyn lleihau effaith IAS ar rywogaethau a chynefinoedd bregus neu sensitif.

6.3.  Mae nifer o ofynion deddfwriaethol gan yr UE a'r DU yng nghyswllt IAS ac mae’r rhain wedi’u nodi yn Atodiad B.  Fodd bynnag, cydnabyddir bod lle i gryfhau’r sylfaen ddeddfwriaethol ar gyfer IAS ac i'w gwneud yn fwy clir.   Gyda'r bygythiad cynyddol o du IAS, mae'r ffaith bod yr UE wrthi'n llunio Rheoliadau penodol ar gyfer IAS ar hyn o bryd yn amserol iawn;  felly hefyd adolygiad Comisiwn y Gyfraith o ddeddfwriaeth Bywyd Gwyllt y DU, a fydd yn cynnwys argymhellion ynghylch IAS.   Gallai rhoi'r mentrau pwysig hyn ar waith yng Nghymru gael dylanwad o bwys ar gyfeiriad ein polisïau ar gyfer IAS yn y dyfodol.          

6.4 Mae’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd eisoes wedi cael llawer iawn o dystiolaeth ysgrifenedig a llafar ynglŷn â'r rhywogaethau goresgynnol estron mwyaf "amlwg" megis Canclwm Japan, Jac y Neidiwr, Rhododendron ac ati.  Mae materion cysylltiedig â’r IAS hyn yn destun diddordeb a phryder mawr ymysg y cyhoedd, ac mae hynny'n ddealladwy.     Mae Llywodraeth Cymru, Cyngor Abertawe a rhanddeiliaid allweddol eraill yn cydweithio â'r Asiantaeth Ymchwil Bwyd a'r Amgylchedd ar arbrofi â rheolaeth naturiol yng nghyswllt Canclwm Japan drwy  ddefnyddio’r pryfyn psyllid Alphalari itadori (sboncyn y dail bychan).  Dechreuwyd ar y gwaith hwn yng Nghymru a Lloegr yn 2011.  Mae’r gwaith o fonitro effeithiolrwydd y dull rheoli posibl hwn yn parhau.  Mae cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ‘Rheoli Canclwm Japan (Fallopia japonica) mewn Contractau Tirlunio ac Adeiladu' (The Control of Japanese Knotweed (Fallopia japonica) in Construction and Landscape Contracts') yn rhoi sylw i rai o'r pryderon ynghylch Canclwm Japan.  Yng nghyswllt yr IAS sefydledig hyn, bydd angen strategaethau rheoli strategol hirdymor.

6.4.  Serch hynny, mae nifer o rywogaethau goresgynnol estron eraill yng Nghymru sy’n destun pryder. 

6.5.      Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio â chydweithwyr eraill ym Mhrydain Fawr i ystyried nifer o brosiectau sydd wedi bod yn edrych ar sganio'r gorwel am rywogaethau anfrodorol newydd.   Ers glaniad y “berdysen reibus” mae pryder penodol wedi codi ynghylch y posibilrwydd y gallai pysgod (‘gobies’ yn bennaf) a chreaduriaid di-asgwrn-cefn Ponto-Caspian eraill (e.e. creaduriaid cramennog eraill ayyb) gyrraedd y wlad hon.    Mae Canolfan Gwyddorau’r Amgylchedd, Pysgodfeydd a Dyframaethu (CEFAS) wedi cynnal ymchwil i'r llwybrau a allai gyflwyno'r rhywogaethau hyn.   Mae’r Gymdeithas Fiolegol Dŵr Croyw wrthi’n  llunio canllaw ar adnabod berdys ac isopodau a allai droi'n oresgynnol yn y dyfodol.  

6.6.      Mae Gweithgor IAS Cymru wedi llunio rhestr o IAS sy’n destun pryder yng Nghymru ac, yn fwy diweddar, wedi chwynnu'r rhestr honno er mwyn cynhyrchu asesiad cryno o'r rhywogaethau sy'n debygol o fod yn destun camau gweithredu yn y dyfodol a beth fyddai'r camau hynny (Atodiad A).   Mae angen i ni wella'r systemau sydd gennym ar gyfer canfod unrhyw IAS newydd yn gynnar ar y tir ac yn yr amgylchedd morol er mwyn inni fod yn y sefyllfa orau bosibl i’w rheoli'n effeithiol.   Bydd angen datblygu dulliau rheoli newydd er mwyn cryfhau ein gallu i ddelio a'r mathau hyn o rywogaethau goresgynnol estron.

6.7.      Yn nhermau atal cyflwyno a rheoli lledaeniad rhywogaethau goresgynnol estron, yn ogystal â'r IAS hysbys, yn y blynyddoedd i ddod, mae'n bosibl y bydd Cymru'n canolbwyntio i raddau helaeth ar rywogaethau IAS newydd megis Misglen Quagga, y Gacynen Asiaidd, Cimwch America, Chwilen Gorniog Asia, y Tyllbryf Onn Emrallt, y Chwistrell Fôr Carped, Dikerogammarus haemobaphes (Perdysen Reibus) a Chimwch Afon America, lle mae cyfle o hyd i’w rheoli’n effeithiol.    

7.  Bioddiogelwch

7.1.      Mae bioddiogelwch IAS yn gynyddol bwysig i weinyddiaethau Cymru, Prydain a Phrydain Fawr a Chyngor Iwerddon.  Mae amryw o fentrau ar y gweill i wella arferion bioddiogelwch da ymysg rhanddeiliaid a’r llywodraeth.  Yn ogystal, mae rheoli llwybrau cyflwyno o bwys strategol cynyddol ac yn debygol o fod yn bwnc a gaiff ei gynnwys yn unrhyw ddeddfwriaeth gan UE ar rywogaethau goresgynnol estron.

7.2.      Mae datblygu mesurau bioddiogelwch effeithiol a hyrwyddo arferion ymddygiad da er mwyn helpu i reoli'r perygl o ledaenu neu o gyflwyno rhywogaethau goresgynnol estron yn parhau i fod yn hanfodol.  Mae ymwybyddiaeth y cyhoedd a dylanwadu ar ymddygiad yn fesurau allweddol o ran delio â rhywogaethau goresgynnol estron.

7.3.      Mae Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill yng Nghymru, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, yn cyfrannu at waith Gweithgor Bioddiogelwch NNS Prydain Fawr, a sefydlwyd gan Fwrdd y Rhaglen fel rhan o Strategaeth Prydain Fawr.

·         Atal Lledaeniad - "Gwirio, Glanhau, Sychu"

7.4.      Mae Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill yng Nghymru yn cefnogi'r ymgyrch "Atal Lledaeniad - Gwirio, Glanhau, Sychu" a gyflwynwyd gan Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Anfrodorol Prydain Fawr ac wedi cyfrannu at gynhyrchu posteri dwyieithog sydd wedi cael eu gosod mewn safleoedd allweddol ar hyd a lled Cymru.

7.5.      Crëwyd "Gwirio, Glanhau, Sychu" mewn ymateb i ganfod y "Berdysen Reibus" (Dikerogammarus villosus) am y tro cyntaf yn 2010. 

7.6.      Ymgyrch bioddiogelwch yw “Gwirio, Glanhau, Sychu” sydd â’r nod o roi cyngor ymarferol i'r rhai sy'n defnyddio'r amgylchedd dŵr croyw megis genweirwyr a phobl sy'n defnyddio cychod a chychod hwylio.  Cafwyd cefnogaeth ar draws y sectorau i’r ymgyrch hon ac mae gweinyddiaethau ar draws Prydain Fawr ac Iwerddon hefyd yn ei chefnogi.  Mae’n arddel yr egwyddorion sylfaenol o wirio offer, ei lanhau ar ôl ei ddefnyddio, a'i sychu.  Mae'r rhain yn gamau y gall pob defnyddiwr dŵr eu cymryd.  Mae enghreifftiau o arfer da yn cynnwys Awdurdod Harbwr Caerdydd yn sicrhau bod mesurau bioddiogelwch “Gwirio, Glanhau, Sychu” yn rhan o amodau a thelerau cystadleuaeth Cwpan Slalom Canŵ y Byd a gynhaliwyd yng Nghanolfan Dŵr Gwyn Ryngwladol Caerdydd; a dangosodd archwiliad bioddiogelwch o TriathlonTata Steel bod trefniadau bioddiogelwch Eglwys Nunydd yn cyd-fynd â’r asesiad o risg.         Mae Swyddogion Gorfodi Pysgodfeydd Lleol hefyd wedi ymgorffori codi ymwybyddiaeth o “Gwirio, Glanhau, Sychu” yn elfen gwirio trwyddedau eu gwaith yng nghyswllt y "Berdysen Reibus".    

7.7.      Mae Llywodraeth Cymru a hen gyrff Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ymwneud cryn dipyn â "Gwirio, Glanhau, Sychu", yn enwedig yng nghyswllt safleoedd gwarchodedig yng Nghymru.  Mae swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd yn rheolaidd gyda'u swyddogion cyfatebol yn Defra a'r asiantaethau statudol er mwyn ystyried datblygiadau a sicrhau dull gweithredu cyson.

·         Mynd at Wraidd y Mater

7.8.      Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ymgyrch "Mynd at Wraidd y Mater” (a lansiwyd ym mis Chwefror 2010) sy’n tynnu sylw at y perygl posibl o gael gwared â phlanhigion dŵr yn y gwyllt.     Mae’r ymgyrch hon yn rhoi sylw i’r llwybr pwysig hwn drwy godi ymwybyddiaeth ymysg yr aelodau hynny o’r cyhoedd sy’n prynu planhigion dŵr a thrwy gyswllt agos â diwydiant.

7.9.      Mae canolfannau garddio wedi chwarae rhan ganolog yn y gwaith o sicrhau bod y negeseuon hyn yn cael eu cyflwyno'n effeithiol drwy gyfrwng mentrau megis rhoi logo "Mynd at Wraidd y Mater" ar labeli planhigion a darparu taflenni wrth werthu.   Nod yr ymgyrch hon yw sicrhau bod planhigion digroeso yn cael eu compostio’n briodol a bod dŵr gwastraff o byllau yn cael ei waredu'n ofalus, yn ddigon pell oddi wrth nentydd, afonydd, pyllau a llynnoedd. 

·         Gwaharddiad ar werthu

7.10.   Roedd asesiadau o risg a gynhaliwyd ar bum rhywogaeth o blanhigion goresgynnol - Dail-ceiniog Arnofiol, Briweg y Gors Awstralia, Briallu’r Dŵr, Rhedynen y Dŵr a Pluen Parot – yn awgrymu y gallai pob un ohonynt achosi difrod economaidd ac amgylcheddol sylweddol.      Maent i gyd yn ffurfio carpedi trwchus ar wyneb afonydd, nentydd, llynnoedd a phyllau sy'n lladd planhigion tanddwr ac algae ac yn gostwng faint o ocsigen tawdd sydd yn y dŵr, sy'n arwain at ddirywiad mewn rhywogaethau dŵr eraill megis anifeiliaid di-asgwrn-cefn a physgod.        Mae’r carpedi trwchus hyn hefyd yn cyfyngu ar fynediad cychod a genweirwyr i ddyfrffyrdd ac yn cynyddu’r risg o lifogydd, a allai olygu cynnydd mewn costau yn sgil gorfod delio â’r canlyniadau.   

7.11.   Bydd gwaharddiad ar werthu’r pum rhywogaeth oresgynnol hyn o blanhigion dan Adran 14ZA Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y'i newidiwyd) a bydd y ddeddfwriaeth berthnasol yn dod i rym yng Nghymru a Lloegr ym mis Ebrill 2014.  O’r dyddiad hwnnw ymlaen, bydd yn anghyfreithlon i unrhyw un gynnig gwerthu’r rhywogaethau hyn neu eu dangos i’w gwerthu, neu feddu arnynt neu eu cludo at ddibenion gwerthu.

·         Casgliad

8. Nid yw taclo IAS yn beth newydd ac mae’n amlwg ei fod yn fater cymhleth oherwydd yr ystod o ffactorau amgylcheddol, cymdeithasol, economaidd a thechnolegol cysylltiedig a’r rhyngweithio rhyngddynt.    Mae'r cyfyngiadau ar gyllid a’r diffyg o safbwynt sylfaen dystiolaeth gref yng nghyswllt IAS yn cymhlethu pethau fwy byth.    Mae camau atal a chanfod buan yn allweddol, ond mae hefyd angen polisïau rheoli strategol ar gyfer IAS sydd wedi ennill eu plwy.  Mae angen datblygu mwy ar ein dull gweithredu integredig yng nghyswllt rheoli IAS yng Nghymru er mwyn cyflawni ein hamcanion ar gyfer bioamrywiaeth, ansawdd bywyd a buddiannau economaidd a sicrhau ecosystemau cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.      

 

Is-adran Tir, Natur a Choedwigaeth                                                                 Mai 2013

Llywodraeth Cymru
Atodiad A

Mae Gweithgor INNS Cymru wedi blaenoriaethu ei waith fel a ganlyn:

Rhywogaethau Rhybudd Uchel – rhywogaethau nad ydynt yng Nghymru ar hyn o bryd a fydd yn cael eu blaenoriaethau ar gyfer ymateb cyflym i atal iddynt ymsefydlu a lledaenu.  Mae’r rhain yn rhywogaethau sydd wedi profi’n hynod oresgynnol, yn niweidiol neu â goblygiadau economaidd neu o ran iechyd pobl.

Dyma’r rhywogaethau a gynhwysir: Undaria pinnatifida (Gwymon/wakame Siapaneaidd), Gyrodactylus salaris (parasit pysgod), Dresissena bugensis (misglen quagga), Rapana venosa (gwichiad rapa), Thaumetopoea precessionea (gwyfyn ymdeithiol y derw), Vespa velitina (cacynen asia), Waterispora subtorquata (bryosoad), Hemimysis anomala (perdysen furgyn), Cimwch (pob rhywogaeth anfrodorol ac eithrio Pacifastacus leniusculus), Hydropotes inermis (ceirw dŵr Tsieineaidd), Myiopsitta monachus (parotanod mynach), Lithobates catesbeianus (Marchlyffant America), Mesotriton alpestris (madfall ddŵr alpaidd), Triturus carnifex (madfall ddŵr gribog Eidalaidd).

Prosiectau dileu lleol, rhanbarthol a chenedlaethol – rhywogaethau a oedd wedi sefydlu mewn niferoedd bychain neu mewn lleoliadau ar wahân lle y credir o hyd y gellir eu dileu.

Dyma’r rhywogaethau a gynhwysir: Didemnum vexillum (Chwistrell fôr carped), Siluris glanis (Cathbysgod Ewropeadd (Wels)), Pseudorasbora parva (gwyniaid pendew ‘Topmouth gudgeon’), Cervus Nippon (Ceirw Sica), Oxyura jamaicensis (Hwyaden Goch), Psittacula krameri (parotanod gyddfdorchog), Zamensis longissimus (Neidr Esgwlapaidd), Hydrocotyle ranunculoides (Dail-ceiniog arnofiol), Acaena novae-zelandiae (Piri-piri), Disphyma crassifolium (llysiau gwlithog porffor), Ludwigia grandiflora (Briallu’r Dŵr).

Rheolaeth strategol– rhywogaethau sydd eisoes wedi ymsefydlu’n eang ond lle y gallai rheolaeth leol fod yn angenrheidiol.  Ar gyfer pob un o’r rhywogaethau hyn bydd ystod o opsiynau gan gynnwys rheoli neu ddileu yn lleol, cyfyngiant, parthau diogelu, lliniaru safleoedd arc/lloeren.

Dyma’r rhywogaethau a gynhwysir:  Grateloupia turuturu (Alga Brown), Dikerogammarus villosus (Perdysen), Crepidula fornicata (Ewinedd moch America), Dreissena polymorpha (Misglod rhesog), Tiostrea lutaria (Wystrys Seland Newydd), Corbicula fluminea (Cregyn bylchog Asia), Crassostrea gigas (Wystrys Pasiffig), Crangonyx pseudogracilis (amffipodau), Eriocheir sinensis (Crancod menigog), Pacifastacus leniusculus (Cimwch afon America), Gammarus tigrinus (amffipod), Sander lucioperca (Draenogyn penhwyad), Branta Canadensis (gŵydd Canada), Muntiacus reevesi (myntjac Reeve’s), Mustela vison (Mincod), Sciurus carolinensis (wiwer lwyd), Capra hircus (geifr gwyllt), Fallopia japonica (Clymog Japan), Cotoneaster bullatus, microphyllus, horizontalis, simonsii, integrifolius (Creigafal anfrodorol), Carpobrotus edulis (Ffigys y Penrhyn), Azolla filiculoides (Rhedynen y dŵr), Crassula helmsii (Corchwyn Seland (Newydd /Bryweg Awstralia, Lagarosiphon major (Ffugalaw crych), Lysichiton americanus (Pidyn y gog Amwericanaidd), Myriophyllum aquaticum/brasiliense (Pluen Parot), Persicaria wallichii/Polygonum polystachyum (Clymog yr Himalaya), Fallopia sachalinensis (y Glymog Fawr), Heracleum mantegazzianum (Efwr Enfawr), Hippophae rhamnoides (Rhafnwydden y môr), Impatiens glandulifera (Jac y Neidiwr), Rhododendron ponticum (a chroesrywiau), Rosa rugosa (Rhosyn Japan)

Mae llawer o’r rhywogaethau a nodwyd yn y tair rhestr wedi’u cynnwys yn y 100 uchaf o rywogaethau ymledol anfrodorol yn ‘Delivering Alien Invasive in Europe’ (DAISIE).

Yn aml mae data cywir ac wedi’i ddiweddaru ar y rhywogaethau goresgynnol estron hyn yn anodd ei gasglu ynghyd.

I gynorthwyo wrth ystyried blaenoriaethau o ran Rhywogaethau Goresgynnol Estron, mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu ADAS i fireinio’r fframwaith gwneud penderfyniadau ymhellach i helpu i flaenoriaethu camau ar rywogaethau ymledol anfrodorol.

 

 

 

 

 

 

 


Atodiad B

DEDDFWRIAETH

Mae datblygiad polisi ar rywogaethau goresgynnol estron yn Ewrop wedi ei yrru gan gytundebau rhyngwladol, yn bennaf dan y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol a Chonfensiwn Bern.  Amrywiol fu’r ymrwymiad polisi ar draws yr UE, gan olygu tirwedd polisi anwastad iawn a lefelau amrywiol o weithredu i fynd i’r afael â rhywogaethau goresgynnol estron.  Daeth y Comisiwn Ewropeaidd i’r casgliad y bydd angen i Strategaeth IAS yr UE fod ar ffurf deddfwriaeth os yw am gyflwyno dull mwy cydlynol effeithiol yn y DU. Ar hyn o bryd mae’r UE yn datblygu cynigion ar gyfer deddfwriaeth IAS y disgwylir iddynt gael eu cyhoeddi’n ddiweddarach eleni.  Mae’n debygol y bydd deddfwriaeth arfaethedig yr UE yn gosod dyletswydd gyfreithiol ar Aelod Wladwriaethau i weithredu ar IAS a fydd yn cynyddu’r camau gofynnol ar IAS yn sylweddol.

Deddfwriaeth Ddomestig

·         Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981

Adran 14 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 yw’r brif ddeddfwriaeth yn ymdrin â rhyddhau rhywogaethau anfrodorol.  Diwygiwyd hyn gan Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 yng Nghymru a Lloegr.  Mae Adran 14 yn ei gwneud yn anghyfreithlon caniatáu i unrhyw anifail nad yw fel arfer yn byw ym Mhrydain Fawr, neu a restrir yn Atodlen 9 i'r Deddf, ddianc i'r gwyllt.  Mae hefyd yn anghyfreithlon plannu neu achosi fel arall i unrhyw blanhigyn a restrir yn Atodlen 9 y Ddeddf, dyfu yn y gwyllt.  Mae troseddau dan Adran 14 yn cario cosb uchaf o £5,000 o ddirwy a/neu 6 mis o garchar am euogfarn ddiannod a dirwy ddiderfyn a/neu 2 flynedd o garchar ar dditiad.

·         Gorchymyn Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (Cymru a Lloegr) 2010 (Amrywio Atodlen 9)

Mae’r amrywiad, sy’n berthnasol i Gymru a Lloegr, yn rhoi manylion cynnwys a thynnu ymaith sawl rhywogaeth o anifeiliaid a phlanhigion o Atodlen 9.  

·         Deddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006

Mae Adran 50 Deddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 (NERC) yn caniatáu i’r Ysgrifennydd Gwladol wahardd gwerthu rhywogaethau anfrodorol goresgynnol y gwyddys eu bod yn achosi difrod yng Nghymru a Lloegr.  Mae Adran 51 Deddf NERC yn caniatáu i’r Ysgrifennydd Gwladol gyhoeddi codau ymarfer na ellir eu defnyddio ar eu pen eu hunain i erlyn ond y gellir eu defnyddio mewn llys barn i ddangos na chymerodd y diffynnydd y rhagofalon angenrheidiol (neu ofal priodol) i atal difrod a achoswyd drwy ryddhau rhywogaethau anfrodorol.

·         Deddf Mewnforio Pysgod Byw 1980

Mae’r Ddeddf hon yn rhoi grym i’r Gweinidog perthnasol wneud Gorchmynion i wahardd neu drwyddedu mewnforio, cadw neu ryddhau rhywogaethau pysgod anfrodorol a allai niweidio cynefin, cystadlu â neu ysglyfaethu unrhyw bysgod dŵr croyw, pysgod cregyn neu eogiaid.  Mae’r Gorchymyn Gwahardd Cadw neu Ollwng Pysgod Byw (Rhywogaethau Penodedig) 1998 a wnaed dan Deddf Mewnforio Pysgod Byw yng Nghymru a Lloegr, yn gwahardd cadw neu ryddhau heb drwydded 26 rhywogaeth neu dylwythau o bysgod anfrodorol.  Mae’r Gorchymyn Gwahardd Cadw Pysgod Byw (Cimychiaid yr Afon) 1996 yn anelu at atal Cimwch Afon America rhag ymledu ymhellach, ac mae’n gwahardd cadw pob rhywogaeth arall o gimwch yr afon anfrodorol heb drwydded yng Nghymru a Lloegr.

·         Deddf Iechyd Planhigion 1967; Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006; Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) 2006

Mae’r ddeddfwriaeth hon yn darparu mesurau diogelwch yn erbyn cyflwyno organebau sy'n niweidiol i blanhigion a chynnyrch planhigion.  Mae’r Gorchmynion yn gweithredu Cyfarwyddeb yr UE 77/93/EEC, sydd bellach wedi’i chyfuno i Gyfarwyddeb 2000/29/EC, ac fe’i gweithredir gan Weinidogion Cymru yng nghyswllt Cymru.  Gweithredir y Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) gan y Comisiwn Coedwigaeth.

·         Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000

Mae’r Ddeddf hon yn diweddaru ac yn diwygio rhannau o Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad yn ymwneud â rhywogaethau anfrodorol yng Nghymru a Lloegr. 

·         Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990

Mae’r Ddeddf hon yn dosbarthu pridd a gwastraff arall sy’n cynnwys mân egin rhywogaethau goresgynnol anfrodorol fel gwastraff a reolir.  Cymhwyswyd hyn i Glymog Japan gyda’r canlyniad fod yn rhaid i wastraff sy’n cynnwys y rhywogaeth hon (Fallopia japonica) gael ei waredu’n unol â chanllawiau Asiantaeth yr Amgylchedd a luniwyd i atal y planhigyn rhag ymledu ymhellach.

·         Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975 (fel y’i diwygiwyd)

Mae Adran 30 yn ei gwneud yn drosedd cyflwyno unrhyw bysgod i ddyfroedd mewndirol heb ganiatâd Asiantaeth yr Amgylchedd yng Nghymru a Lloegr.  Yn ogystal â chynnwys rhywogaethau anfrodorol, mae’r Ddeddf hon hefyd yn gwahardd cyflwyno rhywogaethau brodorol o tu hwnt i’w hamrediad naturiol.

Comisiwn y Gyfraith

Mae Comisiwn y Gyfraith wedi lansio adolygiad o ddeddfwriaeth bywyd gwyllt yng Nghymru a Lloegr  gyda golwg ar ddatblygu fframwaith hyblyg wedi’i symleiddio a’i ddiogelu o ran polisi i’r dyfodol.   Mae allbynnau’r adolygiad hwn yn cynnig pwerau newydd ar gyfer mynd i’r afael ag IAS.  Cyn deddfwriaeth IAS gan yr UE, mae Comisiwn y Gyfraith wedi penderfynu llunio cynigion a fyddai’n darparu arfau deddfwriaethol i sicrhau bod y system IAS yn gweithredu’n briodol.  Mae’r rhain yn cynnwys Gorchmynion Rheoli Rhywogaethau a fyddai’n caniatáu mynd ar dir er mwyn rheoli IAS.  Hefyd, cyflwyno pwerau a fyddai’n ei gwneud yn ofynnol i grŵp penodedig o bobl roi rhybudd o IAS pan ddaw’r bobl hynny’n ymwybodol o bresenoldeb y rhywogaeth.  Dylid defnyddio’r pwerau hyn yn gymesur, yn rhesymol a chyda ffocws.

Deddfwriaeth gysylltiedig yr UE

Mae’r ddeddfwriaeth ganlynol yn cynnwys IAS:

·         Confensiwn Bonn ar Gadwraeth Rhywogaethau o Anifeiliaid Gwyllt Mudol

·         Confensiwn Berne ar Gadwraeth Bywyd Gwyllt a Chynefinoedd Naturiol Ewropeaidd

·         Cyfarwyddeb ar gadwraeth cynefinoedd naturiol a chreaduriaid a phlanhigion gwyllt

·         Cyfarwyddeb ar gadwraeth adar gwyllt

·         Rheoliadau Masnachu mewn Bywyd Gwyllt yr UE

·         Cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr

·         Cyfarwyddyd Fframwaith Strategaeth Forol

·         Rheoleiddio Dyframaethu

·         Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol

·         Confensiwn ar Wlyptiroedd

·         Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Gyfraith y Môr

·         Confensiwn Rhyngwladol ar Ddiogelu Planhigion

Yn ogystal â deddfwriaeth, mae Llywodraeth Cymru’n cydnabod pwysigrwydd gweithredu gwirfoddol ac ar y cyd rhwng sefydliadau a chefnogi cyflawni amcanion polisi drwy ddarparu cyngor ac arweiniad o ran rhannu arfer gorau lle bo hynny’n briodol.